Welsh subtitles for clip: File:Wikipedia ridotto.ogv
Jump to navigation
Jump to search
1 00:00:07,678 --> 00:00:09,937 Ganwyd Wicipedia yn 2001. 2 00:00:09,982 --> 00:00:15,372 Y nod oedd creu'r gwyddoniadur cod agored mwyaf erioed. 3 00:00:15,603 --> 00:00:19,471 Ceir Wicipedia ei ysgrifennu gan gyfranwyr gwirfoddol. 4 00:00:19,555 --> 00:00:21,317 Gall unrhyw un gyfrannu. 5 00:00:21,428 --> 00:00:22,579 Gadewch i ni weld sut. 6 00:00:23,932 --> 00:00:27,900 Mae gan bob erthygl Wicipedia tab “golygu” ar y brig. 7 00:00:27,939 --> 00:00:31,728 Mae'n gadael i chi wneud yn union fel mae'n dweud: 8 00:00:31,929 --> 00:00:34,559 i olygu'r tudalen rydych yn ei ddarllen. 9 00:00:35,067 --> 00:00:38,079 Nid oes gan Wicipedia staff golygyddol. 10 00:00:38,094 --> 00:00:43,472 Gall pob darllenwr mynd at gynnwys unrhyw dudalen yn y gwyddoniadur a'i golygu, 11 00:00:43,507 --> 00:00:45,607 hyd yn oed heb greu cyfrif. 12 00:00:46,102 --> 00:00:49,602 Mae'r testun yn cael ei fformatio gyda chod arbennig, 13 00:00:49,658 --> 00:00:53,214 ond mae'n iaith syml a hawdd iawn i'w ddysgu. 14 00:00:53,881 --> 00:00:59,436 Wrth gadw eich golygiadau, rydych yn caniatáu i ryddhau eich cyfraniad dan drwydded rydd agored. 15 00:00:59,567 --> 00:01:03,067 Bydd unrhyw un yn gallu darllen, defnyddio a newid y testun, 16 00:01:03,147 --> 00:01:05,247 hyd yn oed am bwrpasau masnachol, 17 00:01:05,313 --> 00:01:08,131 cyn belled eu bod yn cydnabod awduron yr erthygl 18 00:01:08,131 --> 00:01:11,134 ac yn rhyddhau unrhyw waith deilliadol dan yr un drwydded. 19 00:01:11,683 --> 00:01:14,483 Mae hefyd yn bwysig i gofio bod pob defnyddiwr, 20 00:01:14,528 --> 00:01:17,328 yd yn oed os nad ydynt wedi cofrestru, 21 00:01:17,357 --> 00:01:20,003 yn gyfrifol am ei gyfraniadau ei hun. 22 00:01:20,591 --> 00:01:24,091 Gall pawb gweld newidiad cyn gynted â'i fod wedi ei gadw. 23 00:01:25,766 --> 00:01:31,146 Nid casgliad o wybodaeth ar hap yw Wicipedia ond gwyddoniadur. 24 00:01:31,266 --> 00:01:34,066 Mae'n gasgliad systematig o wybodaeth ddynol. 25 00:01:34,245 --> 00:01:40,284 Ni chaniateir cyfraniadau fel diffiniadau syml neu waith ymchwil gwreiddiol. 26 00:01:41,730 --> 00:01:48,277 Mae gan bob tudalen ei hanes, sy'n dangos yr holl fersiynau o'r dudalen ers iddo gael ei greu. 27 00:01:48,567 --> 00:01:51,527 Yn ogystal i amser, dyddiad a chrynodeb o bob addasiad, 28 00:01:51,542 --> 00:01:54,431 mae'r gwefan hefyd yn cadw cofnod o bwy wnaeth y newid. 29 00:01:54,655 --> 00:01:56,623 Os nad yw'r cyfrannwr yn defnyddio cyfrif, 30 00:01:56,623 --> 00:02:00,123 mae ei gyfeiriad IP yn cael ei gynnwys yn hanes y tudalen. 31 00:02:00,773 --> 00:02:04,254 Mae'r hanes yn galluogi darllenwr i gymharu unrhyw ddau fersiwn 32 00:02:04,254 --> 00:02:06,726 ac yn amlygu'r gwahaniaeth rhyngddynt. 33 00:02:07,512 --> 00:02:09,634 Mae pob newidiad i Wikipedia yn cael i gofnodi. 34 00:02:09,665 --> 00:02:13,365 Felly pan rydych yn dechrau arni, mae'n dda i ddefnyddio'r tudalen arbrofi, 35 00:02:13,396 --> 00:02:16,496 neu'r “blwch tywod” - tudalen gellir ei newid heb rwystrau. 36 00:02:16,736 --> 00:02:50,083 Gall defnyddwyr cofrestredig hefyd greu tudalennau blychau tywod personol dan eu tudalen defnyddiwr. 37 00:02:25,013 --> 00:02:27,979 I greu tudalen newydd, does dim ond rhaid creu cyswllt i deitl y tudalen 38 00:02:27,979 --> 00:02:30,804 neu glicio ar “gyswllt coch” sydd eisoes yn bodoli. 39 00:02:30,904 --> 00:02:34,844 Mae'n dda i wirio'n gyntaf nad yw'r tudalen eisoes yn bodoli. 40 00:02:36,047 --> 00:02:38,773 Er mwyn sicrhau cyd-weithio cynhyrchiol, 41 00:02:38,773 --> 00:02:44,805 mae'r gymuned wedi datblygu canllawiau mae gofyn i bob cyfrannwr ei ddilyn a'i gorfodi. 42 00:02:45,297 --> 00:02:50,059 Mae un o'r prif ganllawiau yn ymdrin â sut mae trefnu cynnwys erthygl. 43 00:02:50,083 --> 00:02:53,066 Gadewch i ni edrych ar strwythur cyffredinol erthygl. 44 00:02:53,995 --> 00:03:00,542 Dylai'r “adran arweiniol” crynhoi prif bynciau'r erthygl mewn iaith syml a chryno. 45 00:03:00,852 --> 00:03:06,587 Datblygir yr erthygl fesul adran ac mae'n bosib creu tabl cynnwys yn awtomatig. 46 00:03:07,100 --> 00:03:11,565 Gallwch gynnwys lluniau, diagramau a fideos ar Wicipedia, 47 00:03:11,565 --> 00:03:17,135 ond mae'n holl bwysig bod y deunydd rydych yn ei uwchlwytho ar gael i'w ddefnyddio yn rhydd; 48 00:03:17,135 --> 00:03:19,707 hynny yw, ei fod wedi ei ryddhau dan drwydded rydd. 49 00:03:20,464 --> 00:03:25,317 Dylai'r holl wybodaeth sydd mewn erthygl bod yn ddibynadwy ac yn wiriadwy, 50 00:03:25,317 --> 00:03:28,865 felly mae'n bwysig i ddyfynnu ffynonellau allanol ym mhob erthygl. 51 00:03:28,856 --> 00:03:32,356 Dylai'r ffynonellau hyn fod yn gydnabyddedig am eu cywirdeb. 52 00:03:32,527 --> 00:03:36,666 Ar ddiwedd pob erthygl, ar ôl y prif destun, mae adrannau “technegol” 53 00:03:36,666 --> 00:03:39,942 sy'n rhoi mwy o adnoddau yn ymwneud a'r pwnc. 54 00:03:40,311 --> 00:03:46,844 Mewn rhai meysydd penodol, mae arferion a chanllawiau penodol ar gyfer ysgrifennu erthygl. 55 00:03:48,550 --> 00:03:53,445 Un egwyddor hanfodol o Wicipedia yw'r safbwynt diduedd. 56 00:03:53,445 --> 00:03:56,028 Ni chaiff erthyglau cynnwys barnau personol, 57 00:03:56,028 --> 00:04:00,761 ond dylent esbonio'r holl safbwyntiau mewn modd diduedd a chytbwys, 58 00:04:00,761 --> 00:04:02,979 heb unrhyw ragfarn. 59 00:04:04,384 --> 00:04:08,507 Mae gan bob tudalen hefyd ei dudalen trafodaeth ei hun, 60 00:04:08,507 --> 00:04:11,906 ble gall ysgrifenwyr a chyfranwyr drafod a datblygu erthygl 61 00:04:11,906 --> 00:04:14,052 sy'n adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau. 62 00:04:14,443 --> 00:04:18,721 Yn wahanol i dudalen yr erthygl, mae cyfranwyr yn llofnodi eu sylwadau yma. 63 00:04:18,721 --> 00:04:22,257 Rhaid cofio mai cefnogi a gwella datblygiad yr erthygl yw'r drafodaeth 64 00:04:22,257 --> 00:04:24,451 ac nid lle ar gyfer dadlau estynedig. 65 00:04:25,285 --> 00:04:29,579 Os yw cyfranwyr angen trafod gyda nifer o bobl ar yr un pryd 66 00:04:29,579 --> 00:04:33,571 am broblem gyffredinol neu bwnc sy'n ymwneud a nifer o erthyglau, 67 00:04:33,571 --> 00:04:37,376 gallan ddefnyddio'r “Caffi” neu dudalennau priodol y prosiect. 68 00:04:38,039 --> 00:04:41,285 Mae gan bob defnyddiwr cofrestredig ei dudalen personol ei hun, 69 00:04:41,285 --> 00:04:44,085 ble'r gelli rannu wybodaeth am ei hun. 70 00:04:44,210 --> 00:04:47,737 Mae gan y dudalen hon hefyd ei dudalen trafod ei hun, 71 00:04:47,737 --> 00:04:51,237 ac mae'n gweithio fel mewnflwch negeseuon personol. 72 00:04:52,007 --> 00:04:58,185 Mae'r adran “Cymorth” ar gael pan fyddwch eisiau cymorth technegol gan arbenigwr. 73 00:04:58,420 --> 00:05:01,622 Gallwch ofyn i'r “Oracl” am y cynnwys. 74 00:05:03,019 --> 00:05:06,225 Er mwyn atal fandaleiddio ac ymddygiad ymosodol, 75 00:05:06,225 --> 00:05:09,356 mae rhai defnyddwyr cofrestredig yn “gweinyddwyr” 76 00:05:09,356 --> 00:05:12,059 ac yn gallu ymyrryd a pherfformio rhai tasgau arbennig 77 00:05:12,059 --> 00:05:15,559 fel rhwystro defnyddiwr neu ddileu tudalen neu ei warchod rhag ei olygu. 78 00:05:15,718 --> 00:05:19,672 Gwirfoddolwyr yw'r gweinyddwyr, ac maent wedi eu hethol gan y gymuned. 79 00:05:19,680 --> 00:05:22,322 Maen nhw'n gyfrifol am weithredoedd technegol allweddol 80 00:05:22,342 --> 00:05:27,558 ac yn gorfodi polisïau a chanllawiau'r prosiect, 81 00:05:27,558 --> 00:05:30,358 ond nid ydynt yn gyfrifol am Wicipedia. 82 00:05:31,318 --> 00:05:34,489 Y Wikimedia Foundation sy'n rhedeg Wicipedia. 83 00:05:34,489 --> 00:05:37,818 Mae'n sefydliad di-elw, gyda'i phencadlys yn San Fransisco, 84 00:05:37,818 --> 00:05:41,254 ac yntau sy'n rhoi'r holl adnoddau ar gyfer datblygu'r prosiect. 85 00:05:41,330 --> 00:05:47,180 Mae'n dibynnu ar roddion gan sefydliadau preifat a chyhoeddus 86 00:05:47,180 --> 00:05:51,306 ac yn arbennig ar roddion bychan gan nifer mawr iawn o unigolion. 87 00:05:51,996 --> 00:05:54,152 Er mwyn aros yn hollol annibynnol 88 00:05:54,152 --> 00:05:56,831 a chael cyfraniad cymaint â phosib o wirfoddolwyr, 89 00:05:56,831 --> 00:05:59,582 ni chaniateir dangos hysbysebion ar Wikipedia. 90 00:05:59,913 --> 00:06:04,036 Mae nifer o sefydliadau dros y byd hefyd yn hyrwyddo Wikipedia 91 00:06:04,036 --> 00:06:07,536 a'i chwaer prosiectau mewn gwledydd neu ranbarthau penodol. 92 00:06:08,187 --> 00:06:11,453 Sefydlwyd Wikimania yn yr Eidal yn 2005. 93 00:06:11,453 --> 00:06:15,044 Fel prosiectau eraill Wikimedia Foundation, mae Wikimedia Italia 94 00:06:15,044 --> 00:06:19,472 yn hyrwyddo pob math o brosiectau ac ymgyrchoedd sy'n hyrwyddo cynnwys rhydd ac agored. 95 00:06:19,853 --> 00:06:27,908 Gall y wasg, ysgolion neu gwmnïau gysylltu â ni am fwy o wybodaeth am Wicipedia.